Dogfennau mewn trallod – a beth allwn ni wneud!![]() Mae rhai dogfennau'n cael defnydd helaeth, ac mae gennym yr opsiwn bryd hynny o wneud copïau eraill ohonynt (llungopïau neu gopïau digidol fel arfer) er mwyn helpu i gadw'r fersiynau gwreiddiol. Ond dydyn ni byth yn cael gwared â'r ddogfen wreiddiol, oherwydd mai honno yw'r arteffact hanesyddol go iawn, ac mae 'na arwyddocâd ychwanegol iddi yn ogystal â'r wybodaeth sydd ynddi. Yr hyn wnawn niRydym yn ceisio gwarchod cyflwr dogfennau yn ogystal â'u cadw. Mae hynny'n golygu defnyddio'r deunyddiau pecynnu cywir a gwneud yn siwr bod y dogfennau'n cael eu handlo'n ofalus. Rydym yn defnyddio pocedi polyester er mwyn osgoi handlo'r dogfennau'n uniongyrchol, ac fel cymorth ar gyfer tudalennau bregus. ![]() Rydym yn defnyddio pecynnau di-asid ar gyfer cyfrolau unigol, a bocsys cardfwrdd byffyredig i warchod casgliadau rhag llwch a golau. ![]() Mae poced polyester yn costio lleied â 15c ar gyfer un maint cerdyn post. Mae bocsys archifol yn costio rhwng £2 a £4 ac mae pecynnau di-asid yn costio rhwng 50c a £3.50 yr un. ![]() Rwyf am helpu!Gallwch ein helpu i warchod dogfennau trwy • Wirfoddoli • Gwneud rhodd ariannol Bydd £1.00 yn ddigon i osod chwe llun mewn pecynnau addas Bydd £6.00 yn prynu rholyn o dâp trwsio archifol ar gyfer mân rwygiadau mewn mapiau a phapurau Bydd £10.00 yn darparu pecynnau ar gyfer set o lyfrau log ysgol Bydd £100.00 yn gwarchod dogfen fach Os hoffech chi helpu i warchod dogfen yna a fyddech cystal â gwneud rhodd ariannol - ar-lein neu gyda siec yn daladwy i Gyngor Sir Ceredigion. Anfonwch eich rhodd i Archifau Ceredigion, Swyddfa'r Sir, Glan-y-môr, Aberystwyth SY23 2DE. Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol
|