Chwilio

 
 

Ein gwasanaethau a sut i dalu amdanynt



Os nad oes modd i chi ymweld â ni'n bersonol, rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau copïo, yn ogystal â gwasanaeth ymchwilio.

Gwneir pob gwaith copïo dan amodau'r Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth hawlfraint. Ni fyddwn yn fodlon sganio na llun-gopïo dogfen os oes unrhyw berygl y gallai hynny niweidio'r ddogfen, ond dan yr amgylchiadau hyn efallai y bydd modd tynnu ffotograff ohoni yn lle hynny. Os byddwch yn ymweld â ni, cewch ddefnyddio'ch camera eich hun yn ddi-dâl (dan amodau'r cyfyngiadau uchod).

Mae angen cytundeb yr Archifydd cyn copïo unrhyw eitem (gan gynnwys ffotograffiaeth hunanwasanaeth)

Pan fyddwch yn cael gwneud copi o ddogfen, bydd angen i chi argraffu ffurflen Cais am Drwydded a Datganiad Hawlfraint, ei llofnodi, a'i dychwelyd atom ni ynghyd â'ch taliad, gan roi manylion fformat y copi.

Rhestr brisiau - copïo



• Llun-gopi neu allbrint cyfrifiadur A4 du a gwyn darparwyd gan aelod o staff - 15 ceiniog
• Llun-gopi neu allbrint cyfrifiadur A3 du a gwyn darparwyd gan aelod o staff - 30 ceiniog

• Llun-gopi neu allbrint cyfrifiadur A4 lliw darparwyd gan aelod o staff - 60 ceiniog
• Llun-gopi neu allbrint cyfrifiadur A3 lliw darparwyd gan aelod o staff - £1.20

• Ffotograffau - ffi sefydlu o £7.00 ac yna £2.00 am bob delwedd (hyd at 20 o ddelweddau am bob archeb)

• Sgan digidol â chydraniad isel i e-bostio (fformat PDF) - £3.00 y ddelwedd
• Sgan digidol â chydraniad uchel - £8.00 y ddelwedd.

• CD-ROM - £1

Bydd yna hefyd ffi am bacio a phostio (fel arfer rhwng £1.50 a £2.50).

Ymchwil


Cost ein gwasanaeth ymchwil yw £21.00 yr awr. Noder bod y ffi ar gyfer yr amser a dreulir ar yr ymchwil; ni ellir gwarantu canlyniadau.

Ar ôl i ni dderbyn ymholiad, byddwn yn gwneud yr ymchwil gychwynnol yn rhad ac am ddim; mae'r ffi uchod ar gyfer unrhyw waith ychwanegol a wneir. Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn brysur iawn, a gall gymryd peth amser i ni ymateb i ymholiadau. Ni allwn gynnig gwasanaeth ymchwil ar sail blaenoriaeth/brys.

Hen gofrestriadau moduron


Gweler tudalen Cofnodion Trwyddedu Cerbydau Modur.

Dulliau o dalu


Payment can be made by the following means:

- Ar-lein efo cerdyn - ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion yna dewis Taliad ar-lein > Arall > Archifdy > Tal ymchwilio.
- Dros y ffon: Ffoniwch y Tim Gwasanaethau Cwsmeiriaid ar 01545 570881 a dweud eich bod yn talu ffi ymchwil i'r Archifdy.
- Siec yn daladwy i Gyngor Sir Ceredigion (NID yr Archifdy!)
- Arian barod neu stampiau (a anfonir ar eich cyfrifoldeb eich hun).

Mae'r cyfeiriad ar dudalen cyswllt.

Anerchiadau


Os hoffech wybod rhagor am waith y Gwasanaeth Archifau, efallai y byddech yn hoffi i aelod o'n staff fynychu cyfarfod o'ch grwp neu gymdeithas.

Mae ein staff bob amser yn hapus i gyflwyno sgwrs neu ddarlith, naill ai mewn lleoliad o'ch dewis chi, neu yn yr Archifdy ei hun.

Gellir trefnu sgwrs neu ddarlith yn Gymraeg neu Saesneg. Mair Humphreys sy'n cyflwyno'r rhai Cymraeg, a Helen Palmer, Ania Skarzynska a Mair Humphreys y rhai Saesneg.

Er nad ydym fel arfer yn codi ffi am gyflwyno sgwrs neu ddarlith oddi mewn i Geredigion, rydym bob amser yn falch o dderbyn cyfraniadau. Awgrymwn gyfraniad o £20.00 ar gyfer grwpiau bach, a rhwng £30.00 ac £40.00 ar gyfer grwpiau mwy. Rydym yn sylweddoli, fodd bynnag, nad oes gan rai clybiau a chymdeithasau bach lawer o arian wrth gefn; peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag cysylltu â ni os hoffech glywed am waith y Gwasanaeth Archifau.


Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu