Chwilio

 
 

Ymweld â'r Archifdy


Hen Neuadd y Dref - ein cartref ers Ebrill 2012


Estynnir croeso cynnes i bawb sy'n ymweld ag Archifdy Ceredigion. Beth bynnag yw eich diddordebau a'ch meysydd astudio - boed hynny'n hanes teuluol, hanes lleol, prosiectau addysgol, hen rifau cofrestru ceir a llawer o bynciau eraill - dewch i weld sut y gallwn ni eich helpu.

Gall staff yr Archifdy gynnig trywydd ymchwil priodol i chi, a'ch cynghori sut i ddefnyddio'r dogfennau.

Dyma ein horiau agor:

Dydd Llun - Dydd Iau: 10yb-1yh a 2yh-5yh

Dydd Gwener: 10yb-1yh a 2yh-4.30yh

(Ar gau ar Wyliau Banc a Gwyliau'r Cyngor. Os ydych yn teithio o bell, cysylltwch â ni cyn cychwyn i wneud yn siwr ein bod ar agor.)

Canllawiau Newydd Ystafell Ymchwil – Covid-19



Gwneud Apwyntiad

Yr ydym ni'n dal i weithredu system apwyntiadau; cysylltwch â ni ymlaen llaw i fwcio lle. Mae'n bosibl i ymweld heb apwyntiad os bydd lle ar gael yn yr Ystafell Ymchwil.

Archebu Dogfennau

Gellir archebu deunydd drwy'r bori drwy'r catalog ar-lein ac yna cysylltu gyda'r Archifdy gyda eich dewis o ddogfennau fel bod modd i staff sicrhau fod y dogfennau hynny ar gael. Neu os nad ydych yn sicr pa ddogfennau yr ydych eu hangen mae croeso i chwi gysylltu fel eich bod yn gallu cael cymorth gan aelod o staff, neu holwch wrth gyrraedd.

Cadarnhau Apwyntiad

Byddwn yn cadarnhau dyddiad ac amser eich apwyntiad, drwy e-bost fel arfer. Gan fod y niferoedd all ddod i'r archifdai wedi eu cyfyngu bydd angen i chwi wneud apwyntiad ychwanegol os ydych eisiau dod ag unrhyw berson arall gyda chwi.

DS. Os nad ydych yn teimlo'n dda ar y diwrnod yr ydych wedi derbyn apwyntiad neu ddim yn gallu dod a fuasech cystal a chysylltu i ail-drefnu neu gohirio'r apwyntiad os gwelwch yn dda.

Yn ystod eich ymweliad

Pan y byddwch yn dod i mewn i'r Archifdy bydd gofyn i chwi:

• ddiheintio eich dwylo cyn eistedd yn yr ystafell ymchwil.
• (dewisol ond dymunol) wisgo gorchudd gwyneb.

Tra yn yr ystafell ymchwil i sicrhau diogelwch i chwi ac eraill gofynnir i chwi

• barchu gofod personol defnyddwyr eraill a staff y Gwasanaeth


DS. Mae ein rheolau parthed trafod dogfennau yn dal mewn grym - gweler isod


Dogfennau

Nid oes angen archebu dogfennau ymlaen llaw ond bydd yn cyflymu pethau os gwnewch hynny.

Os ydych yn cael trafferth gydag unrhyw agwedd o’r deunydd yr ydych wedi ei archebu, e.e. darllen gair, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.

Mae croeso i chwi ddod â'ch gliniadur, camera, neu ddyfeisiau eraill.

Bydd y llyfrau cyfeiriol ar gael yn ystod eich ymweliad.

Bydd peiriannau ffilm a fiche ar gael. Gellwch ofyn am fenig tafladwy os dymunwch.

Mae'r cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael.


DS. Rydym ni'n symud i gynllun cofrestru darllenwyr newydd, sef y Cerdyn Archifau. Tocyn darllenydd archifau unigol yw'r Cerdyn Archifau ac mae'n rhoi mynediad ichi i doreth o ddeunyddiau archif gwreiddiol mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Cerdyn Archifau ar gael yn rhad ac am ddim ac yn ddilys am bum mlynedd. Gellwch ddechrau'r broses gofrestru gartref; cliciwch yma i ddarganfod mwy.



Lleoliad


Location map

Lleolir yr Archifdy yn hen Neuadd y Dref Aberystwyth, tua deng munud o orsafoedd y trenau a'r bysiau. Gallwch barcio am ddim ar strydoedd y dref ac ar lan y môr, ond cofiwch fod Aberystwyth yn lle prysur iawn yn nhymor y gwyliau. Hefyd, mae yna sawl maes parcio talu-ac-arddangos yn y dref.
(Map Arolwg Ordnans o 1905 yw'r un uchod; mae hwn yn rhoi gwybodaeth fwy diweddar)

Cyfleusterau


Cadeiriau olwyn
Mae modd i bobl mewn cadeiriau olwyn gael mynediad i'r Archifdy.

Bwyd a Diod
Ni chaniateir bwyta ac yfed yn yr Ystafell Ymchwil. Pan ddaw amser cinio (neu pan fyddwch yn ysu am baned o goffi), ewch am dro byr i ganol y dref. Mae Aberystwyth yn llawn o gaffis a bwytai. Rydych yn siwr o ddod ar draws rhywle sy'n plesio!

Rheolau i Ddarllenwyr


Yn yr Ystafell Ymchwil

• Ni chaniateir bwyd na diod (yn cynnwys melysion/fferins) yn yr Ystafell Ymchwil
• Dylech ddiffodd tôn-ganu eich ffôn symudol pan fyddwch yn defnyddio'r Archifdy
• Ni ddylid gosod bagiau ar y byrddau yn yr Ystafell Ymchwil
• Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir llungopio neu sganio
• Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir tynnu ffotograffau
• Dylai plant a'u rhieni barchu'r awyrgylch tawel yn yr Ystafell Ymchwil

Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau'n unigryw, ac mae rhai ohonynt yn fregus. Rhaid eu trafod â gofal mawr

• Gwnewch yn siwr bod eich dwylo'n lân
• Trowch y tudalennau'n ofalus (a pheidiwch byth â llyfu'ch bysedd i helpu'r broses, os gwelwch yn dda!)
• Ni ddylid pwyso ar ddogfennau, na'u cyffwrdd yn ddiangen
• Peidiwch â gorffwys eich pad ysgrifennu eich hun ar y ddogfen
Defnyddiwch bensil bob amser, nid pen ysgrifennu
• Defnyddiwch astell lyfrau ar gyfer cyfrolau wedi'u rhwymo
• Ni chaniateir i unrhyw un gael mynediad at fwy na phedair dogfen ar y tro

Os hoffech help wrth ddefnyddio dogfen, gofynnwch i un o'r staff.

Llefydd i aros yn lleol


Os oes angen i chi aros dros nos, gall y Swyddfa Dwristiaeth yn Aberystwyth roi manylion am westai lleol i chi.

Gwersyll Bow Street, blynyddoedd cynnar yr 20ed ganrif
Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu