Chwilio

 
 

Croeso i'r Archifdy


Archifdy Ceredigion yw swyddfa gofnodion y sir a elwid gynt yn Sir Aberteifi (yn Saesneg, Cardiganshire).

Rydym yn casglu ac yn cadw dogfennau'n ymwneud â hanes Ceredigion, ac yn sicrhau eu bod ar gael i bwrpas gwaith ymchwil.

Ynghylch Archifdy Ceredigion


Sefydlwyd Archifdy Ceredigion yn wreiddiol yn 1974, fel trydedd swyddfa Gwasanaeth Archifau Dyfed. Bryd hynny câi ei alw'n Archifdy Rhanbarthol Sir Aberteifi. Yn 1996, gydag ad-drefnu llywodraeth leol, ail-lansiwyd yr archifdy fel Archifdy Ceredigion. Hyd heddiw, mae hwn ymhlith y lleiaf o'r archifdai sirol. Mae dogfennau swyddogol a phreifat yn ymwneud a hanes y sir yn cael eu cadw yma.

Mair indexing

Y staff


Mae yna bump aelod parhaol o staff archifau ar hyn o bryd:

Helen Palmer (Archifydd y Sir)
Mair Humphreys (Archifydd/Rheolwr Cofnodion)
Ania Skarzynska (Uwch Archifydd)
Tamzin Craine (Prif Gynorthwy-ydd Archifau a Chofnodion)
Margaret Jones (Cynorthwy-ydd Archifau )

Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o weithio gydag archifau, ac y maent bob amser yn fodlon iawn i gynnig cyngor ar unrhyw agwedd o ymchwilio i hanes lleol neu hanes teuluol. Os byddwch yn ymweld â'r Archifdy, gallant ddangos i chi sut i gael y gorau allan o gasgliadau Archifdy Ceredigion, a sut i ddefnyddio'r gwahanol ddarllenyddion microffilm a microfiche yn yr ystafell ddarllen. Gellir cysylltu â hwy drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy e-bost.

Sut allwch chi helpu


Gallwch chi helpu Archifdy Ceredigion yn y ffyrdd canlynol

• Defnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael
Cyfrannu eitemau at y casgliadau
Rhoi arian ar gyfer prosiectau gwarchod
Gwirfoddoli i helpu yn yr Archifdy
• Dweud wrth eich ffrindiau amdanom ni

Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu