Chwilio

 
 

Sut i ddefnyddio ein catalog ar-lein



Fel arfer, bydd chwilwyr yn defnyddio'r teclyn chwilio gwefan (mae'n dal yn amherffaith, ond rydym yn gweithio arno fe!) i chwilio am ddogfennau sy'n berthnasol i'w gwaith ymchwil. Fel arfer, bydd dwy set o ganlyniadau: y rhai oddi ar ein catalog, a rhai oddi ar ein Cofrestr Derbyniadau. Mae'r Gofrestr yn gofnod byr o'r eitemau a gafwyd gennym ni, pa un ai fel rhoddion, adneuon, neu drwy brynu. Ni fwriedir iddi fod yn gatalog llawn, neu'n un i gymryd ei le, ond mae'n golygu bod y cyhoedd yn ymwybodol o'n caffaeliadau newydd lawer yn gynt na thrwy aros i'r eitemau gael eu catalogio'n llawn.
Catalogue file tree

At hynny, gellir pori'r Catalog a'r Gofrestr Derbynion yn uniongyrchol. I gael mynediad at yr olaf, defnyddiwch y ddewislen ar ochr chwith ein holl dudalennau a chliciwch ar 'Caffaeliadau Diweddaraf'. Caiff yr eitemau eu rhestru gyda'r rhai diweddaraf yn gyntaf gan fynd yn ôl at ein rhai cynharaf oll.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn pori drwy ein catalog ar-lein; mae'r cyswllt hwn hefyd yn y ddewislen ar y chwith. Unwaith i'r dudalen agor, bydd y Ddewislen Atodlenni'n ymddangos. Cliciwch ar yr arwyddion + wrth ymyl y labeli i ehangu'r ddewislen. Mae'r eitemau wedi'u trefnu yn hierarchaidd, gan adlewyrchu eu tarddiad a/neu'u natur. Er enghraifft, bydd ehangu adran 'Cofnodion Cynghorau Sir' yn dangos bod tri math o awdurdod lleol wedi bodoli ers creu'r cynghorau sir yn 1888. Bydd clicio ar bob un yn datgelu eu strwythur mewnol ac o fewn yr adrannau, bydd yna gatalogau o gofnodion a grëwyd neu a adneuwyd ganddynt.

Mae'r eitem uchaf yn y Ddewislen Atodlenni ('Indexes, Electoral Registers etc.') yn rhestru ffynonellau amrywiol, casgliadau a mynegeion, gyda rhai wedi'u llunio gan ymchwilwyr.

Mae'r adran Cofnodion Ysgol ('School Records') yn eithriad gan ei fod yn llunio eitemau o wahanol gasgliadau o dan benawdau ysgolion unigol.

Mae'r Mân Adneuon ('Minor Deposits'), Casgliad yr Amgueddfa ('Museum Collection'), Casgliad y Llyfrgell ('Library Collection') ac Aberystwyth Ddoe ('Aberystwyth Yesterday')mewn realiti setiau o gasgliadau bach a gafwyd naill ai oddi wrth adneuwyr unigol a / neu roddwyr yn uniongyrchol neu drwy sefydliad arall.

Edrychwch am 'Cyflwyniadau' o dan rai penawdau catalog am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfres benodol o gofnodion, ac edrychwch ar y dudalen 'Casgliadau a Ddangosir', lle rydym yn tynnu sylw at rai casgliadau pwysig.

Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu