Chwilio

 
 

Dolenni defnyddiol



Mae'r Rhyngrwyd wedi gwneud gwaith yr ymchwilydd gymaint yn haws, mewn sawl ffordd! Er mai'r stordai eu hunain, lle cedwir y deunydd crai gwreiddiol, yw'r lle gorau o hyd i wneud gwaith ymchwil, gellir dysgu llawer iawn o ffynonellau eraill: cyfnodolion, llyfrau ac wrth gwrs y Rhyngrwyd. Mae'n debyg na fydd y dulliau hyn yn cynnig yr ateb cyflawn i chi, ond gallant eich helpu i ddirnad beth yn union yw eich cwestiwn, ac ymhle y gellir dod o hyd i'r ateb.

Ar y dudalen hon rydym wedi rhestru nifer o ddolenni a chyfeirnodau a fydd, gobeithio, o ddefnydd i chi. Nid ydym yn honni bod hon yn rhestr gynhwysfawr, ond dylai fod o gymorth i chi chwilio ymhellach. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau, os gwyddoch am ryw ddolen neu gyfeirnod defnyddiol y gellid eu cynnwys ar y dudalen, neu i roi gwybod i ni am ddolen nad yw'n gweithio.

Agorir y dolenni isod mewn ffenestri newydd.

DS. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion ac Archifdy Ceredigion yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau allanol.

Sut i ddod o hyd i ni ar-lein


Rhestr o'n gwefannau allanol gan gynnwys rhwydweithio cymdeithasol.

Hanes Teuluol a Lleol: Ceredigion


GENUKI Sir Aberteifi adran Ceredigion o safle Achau'r DU ac Iwerddon. Llwythi o wybodaeth a chysylltiadau perthnasol ynghylch pob agwedd o hanes lleol a hanes teuluol yn y sir.

Plwyf Llangynfelyn enghraifft ardderchog o wefan hanes lleol!

Mynwent Llanbadarn safle defnyddiol iawn, yn cynnwys mynegai o gerrig beddau a gwybodaeth hanesyddol arall. Crewyd y safle gan A W Gilbey ac Ysgol Penglais, Aberystwyth, a hwy hefyd sy'n ei gynnal a'i gadw.

Mynwent Capel y Garn, Bow Street cynllun a mynegai o'r fynwent (mewn fformat pdf)

Cymdeithas Hanes Llansantffraed Mae'r wefan yn cynnwys lluniau, arolwg y fynwent a thrawsgrifiad o lyfr festri.

Hanes Nanteos Mae Janet Joel yn cyflwyno hanes yr ystad pwysig hwn, a'r teulu Powell.

Hanes Teuluol a Lleol: Cyffredinol


Vision of Britain - rhowch gynnig ar yr 'Expert Search' os ydych yn ceisio dod o hyd i ffin weinyddol aneglur. Safle ardderchog.

FreeBMD - mynegai defnyddiol (ac yn rhad ac am ddim) o enedigaethau, priodasau a marwolaethau ar ôl 1837 yng Nghymru a Lloegr.

Morwyr Cymru - cronfa ddata ar-lein o forwyr o Gymru a'u llongau.

'Mae Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru yn bodoli er mwyn helaethu gwybodaeth am a hyrwyddo ymchwil i mewn i hanes cyfoethog cyfraith Cymru'

Project Cymru-Ohio 'Mae'r wefan unigryw hon yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes a diwylliant Cymry America'

Sefydliadau Cenedlaethol


Llyfrgell Genedlaethol Cymru - stordy mwyaf Cymru o lyfrau a llawysgrifau.

Archifau Gwladol y Deyrnas Unedig Yr Archifau Gwladol (Swyddfa Gofnodion Cyhoeddus) yn Kew yw'r stordy dogfennau mwyaf ym Mhrydain. Gallwch chwilio'r catalogau ar-lein, neu wneud dim mwy na mwynhau edrych ar yr ystod eang o wybodaeth sydd ar gael.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru - wedi'i leoli yn Aberystwyth, mae'r Comisiwn yn creu ac yn cadw cofnodion o safleoedd pensaernïol, archaeolegol a diwydiannol yng Nghymru. Coflein yw cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol ac mae'n agored i chwilwyr (i gael y gorau o'r map chwilio, darllenwch y ffeil gymorth yn gyntaf!)

Archifau yng Nghymru


Archifau Cymru

Archifau Mon
Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Archifau Conwy
Archifau Sir Ddinbych
Archifdy Sir y Fflint
Archifau Morgannwg
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Archifau Gwent
Archifau Gwynedd (canghenni yng Nghaernarfon a Dolgellau)
Archifdy Sir Benfro
Archifau Powys
Canolfan Astudiaethau Lleol ac Archifau A.N. Palmer (yn Wrecsam)


Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu