Chwilio

 
 

Cofnodion Trwyddedu Cerbydau Modur



Yn sgil y Ddeddf Ceir Modur 1903, cafodd cerbydau modur eu cofrestru gan ei gwneud hi’n ofynnol i arddangos platiau rhifau arnynt. Y Cynghorau Sir a’r Cynghorau Bwrdeistref Sirol oedd yn gyfrifol am y cofrestru a’r trwyddedu.

Y llythrennau ar gyfer pob cerbyd a gofrestrwyd yn Sir Aberteifi (& Dyfed, ardal Ceredigion) rhwng 1903 a 2001 yw ‘EJ’. Os ydych yn chwilio am fanylion cerbydau o fan arall, cliciwch yma am restr yr ardaloedd cofrestru cerbydau. A dyma dudalen ddefnyddiol arall am gofrestru cerbydau ym Mhrydain.

Mae hen gofrestrau moduron bellach ar gael ar ein gwefan fel Cronfa Ddata chwiliadwy o Rifau Cofrestru Cerbydau.

Cyf. ADX/710/02


Mae Archifdy Ceredigion yn cadw cofrestri o gerbydau â phlatiau ‘EJ’ y Sir o 1903 hyd 1974 (gweler y rhestr yn y catalog ar y wefan hon). Wrth ymyl rhifau’r cofrestri, ceir enw’r person sy’n cofrestru’r cerbyd, ei gyfeiriad a dyddiad y cofrestru; hefyd, ceir math neu fodel (a lliw) y car ac ambell waith ei rif cyfresol a’i farchnerth. Mae fformat y cofrestri wedi newid o ryw ychydig dros y blynyddoedd ond nid yw’r wybodaeth wedi newid llawer.

Mae yna ychydig fylchau yn y cofnodion (er enghraifft, ni oroesodd unrhyw gofrestr rhwng Ionawr 1948 a Mai 1949) ond mae manylion rhan fwyaf y cofrestriadau yn dal i fod.

Gallwn gynnig llun-gopi lliw (maint A3) o gofnod oddi ar y gofrestr am £3.00 gan gynnwys postio a phacio (£1.30 am y copi yn unig), neu am £7.50, gallwn gynnig copi gyda llythyr arwyddedig yn cadarnhau dilysrwydd y copi.

Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu