Chwilio Hwylus
Mae'r platiau cofrestru ceir wedi eu nodi ar y ffurf: 'llythrennau-bwlch-rhifau' e.e. EJ 3. Cofiwch ddefnyddio'r drefn yma pan fyddwch chi'n chwilio trwy adael bwlch rhwng y llythrennau a'r rhifau.
Efallai bydd mwy nag un canlyniad i bob rhif, naill ai ar gyfer yr un cerbyd gyda pherchennog newydd, neu ar gyfer cerbyd gwahanol. Yn y dyddiau cynnar, byddai llyfrau cofrestru gwahanol yn cael eu cadw ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, ceir a beics modur, ond roedd pob un yn defnyddio'r un rhifau. Felly, gallai car a beic modur rannu'r un plât cofrestru.
Yn anffodus, mae llyfr cofrestru Cerbydau Nwyddau Trwm Ceredigion o'r dyddiau cynnar wedi mynd i ddifancoll ond mae llyfrau moduron Ceredigion yn syndod o gyfan a phleser o'r mwyaf yw eu cyflwyno ar ffurf hawdd ei chwilio am y tro cyntaf.
Cewch wneud cais am gopïau papur o'r cofrestriadau hefyd - gweler tudalen
Cofnodion Trwyddedu Cerbydau Modur
Cafodd y gronfa ddata ei chasglu ynghyd gan Andrew Williams, Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul, sydd wedi ysgrifennu pwt
ar ein blog yma a hefyd
yma.
Cafodd y rhyngwyneb chwiliadwy ar gyfer y we ei ddatblygu gan
Technoleg Taliesin
Databas cofrestr cerbydau
NEU