Estynnir croeso cynnes i bawb sy'n ymweld ag Archifdy Ceredigion. Beth bynnag yw eich diddordebau a'ch meysydd astudio - boed hynny'n hanes teuluol, hanes lleol, prosiectau addysgol, hen rifau cofrestru ceir a llawer o bynciau eraill - dewch i weld sut y gallwn ni eich helpu.
Gall staff yr Archifdy gynnig trywydd ymchwil priodol i chi, a'ch cynghori sut i ddefnyddio'r dogfennau.
DS. Rydym ni'n symud i gynllun cofrestru darllenwyr newydd, sef y
Cerdyn Archifau. Tocyn darllenydd archifau unigol yw’r Cerdyn Archifau ac mae’n rhoi mynediad ichi i doreth o ddeunyddiau archif gwreiddiol mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Cerdyn Archifau ar gael yn rhad ac am ddim ac yn ddilys am bum mlynedd. Gellwch ddechrau'r broses gofrestru gartref;
cliciwch yma i ddarganfod mwy.
Dydd Llun 10yb - 5yh
Dydd Mawrth 10yb - 5yp
Dydd Mercher 10yb - 5yp
Dydd Iau 10yb - 6yp
Dydd Gwener 10yb - 4yp
(Ar gau ar Wyliau Banc a Gwyliau'r Cyngor. Os ydych yn teithio o bell,
cysylltwch â ni cyn cychwyn i wneud yn siwr ein bod ar agor.)
Lleolir yr Archifdy yn hen Neuadd y Dref Aberystwyth, tua deng munud o orsafoedd y trenau a'r bysiau. Gallwch barcio am ddim ar strydoedd y dref ac ar lan y môr, ond cofiwch fod Aberystwyth yn lle prysur iawn yn nhymor y gwyliau. Hefyd, mae yna sawl maes parcio talu-ac-arddangos yn y dref.
(Map Arolwg Ordnans o 1905 yw'r un uchod; mae hwn yn rhoi
gwybodaeth fwy diweddar)
Cadeiriau olwyn
Mae modd i bobl mewn cadeiriau olwyn gael mynediad i'r Archifdy.
Bwyd a Diod
Ni chaniateir bwyta ac yfed yn yr Ystafell Ymchwil. Pan ddaw amser cinio (neu pan fyddwch yn ysu am baned o goffi), ewch am dro byr i ganol y dref. Mae Aberystwyth yn llawn o gaffis a bwytai. Rydych yn siwr o ddod ar draws rhywle sy'n plesio!
Yn yr Ystafell Ymchwil
• Ni chaniateir bwyd na diod (yn cynnwys melysion/fferins) yn yr Ystafell Ymchwil
• Dylech ddiffodd tôn-ganu eich ffôn symudol pan fyddwch yn defnyddio'r Archifdy
• Ni ddylid gosod bagiau ar y byrddau yn yr Ystafell Ymchwil
• Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir llungopïo neu sganio
• Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir tynnu ffotograffau
• Dylai plant a'u rhieni barchu'r awyrgylch tawel yn yr Ystafell Ymchwil
Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau'n unigryw, ac mae rhai ohonynt yn fregus. Rhaid eu trafod â gofal mawr
• Gwnewch yn siwr bod
eich dwylo'n lân
• Trowch y tudalennau'n ofalus (a
pheidiwch byth â llyfu'ch bysedd i helpu'r broses, os gwelwch yn dda!)
• Ni ddylid pwyso ar ddogfennau, na'u cyffwrdd yn ddiangen
• Peidiwch â gorffwys eich pad ysgrifennu eich hun ar y ddogfen
•
Defnyddiwch bensil bob amser, nid pen ysgrifennu
• Defnyddiwch astell lyfrau ar gyfer cyfrolau wedi'u rhwymo
• Ni chaniateir i unrhyw un gael mynediad at fwy na phedair dogfen ar y tro
Os hoffech help wrth ddefnyddio dogfen, gofynnwch i un o'r staff.
Os oes angen i chi aros dros nos, gall y
Swyddfa Dwristiaeth yn Aberystwyth roi manylion am westai lleol i chi.